Mae’r telynor arbrofol uchel ei barch, Rhodri Davies, wedi rhyddhau dau albwm newydd ar y llwyfannau digidol arferol.
For Simon H. Fell ydy enw’r cyntaf o’r rhain, a DWA DNI ydy’r llall, ac maent allan ar label Amgen.
Mae stori drist yn gefndir i ‘For Simon H. Fell’. Cafodd Rhodri Davies wahoddiad i gymryd rhan yng nghyfres ar-lein AMPLIFY 2020, sef ‘gŵyl gwarantîn’ a drefnwyd gan Jon Abbey, Vanessa Rossetto, a Matthew Revert i gyflwyno gweithiau gan artistiaid sain ledled y byd yn ystod argyfwng byd-eang COVID-19.
Recordiodd Davies y gwaith byrfyfyr awr o hyd ar 26 Mehefin, 2020, gan feddwl am Simon H. Fell, baswr rhyfeddol, byrfyfyriwr, trefnydd, a rheolwr ei label recordio ei hun a oedd wedi bod yn yr ysbyty â chanser datblygedig. Bu farw Fell ddeuddydd yn ddiweddarach ac mae’r darn wedi’i gyflwyno er cof amdano.
Mae unawd telyn gyngerdd Davies, For Simon H. Fell yn rhoi golwg wahanol, ond cwbl gyflenwol, o’r modd y mae’n gweithredu fel byrfyfyriwr. Dyma’r ehangaf o’i weithiau byrfyfyr unigol a recordiwyd, a hynny am awr o hyd. Wrth wrando ar y darn, mae rhywun yn cael ei daro gan y ffordd y mae’n strwythuro trywydd cyffredinol y gwaith byrfyfyr.
Record Bwyleg
DWA DNI ydy’r ail albwm i ymddangos gan Rhodri ar 14 Ebrill, a record Bwyleg ydy hon.
Recordiwyd y gerddoriaeth ar y CD dros gyfnod o ddau ddiwrnod ym mis Ionawr 2021. Mae’r albwm yn parhau ar drywydd ei albwm unigol An Air Swept Clean of All Distance a ryddhawyd yn 2014 a Telyn Rawn a ryddhawyd yn 2020.
Mae Davies yn archwilio’r tiwniadau scordatura a geir ar Telyn Rawn ond y tro hwn yn cael ei chwarae ar y delyn lin y mae’n ei chwarae ar An Air Swept Clean of All Distance. Unwaith eto mae’r delyn yn cael ei recordio’n acwstig, a’i chwarae heb unrhyw ymhelaethu, paratoadau nac afluniad.
Mae’r teitlau’r caneuon mewn Pwyleg ac wedi’u benthyg o weithiau Lisa Jarnot, Ed Luker, Nathaniel Mackey, Redell Olsen, Sun Ra, Nisha Ramayya, Sarah Riggs a Leslie Scalapino.
Arbrofi cerddorol
Mae Rhodri Davies wedi ymgolli ym myd byrfyfyr, arbrofi cerddorol, cyfansoddi a pherfformiad clasurol cyfoes. Mae’n canu telyn, telyn drydan, electroneg fyw ac yn adeiladu gosodiadau gwynt, dŵr, rhew, rhew sych a thelyn dân ac mae wedi rhyddhau chwe albwm unigol.
Mae ei grwpiau rheolaidd yn cynnwys: HEN OGLEDD, Cranc, Common Objects a deuawd gyda John Butcher. Mae wedi gweithio gyda’r artistiaid canlynol: David Sylvian, Jenny Hval, Derek Bailey, Sofia Jernberg, Lina Lapelyte, Pat Thomas, Simon H. Fell a Will Gaines.
Mae’r ddau albwm newydd ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho ar y llwyfannau digidol arferol. Mae hefyd modd archebu fersiwn CD o’r albyms ar safle Bandcamp y cerddor.