Dechrau taith fer Georgia Ruth

Bydd Georgia Ruth yn dechrau ar ei thaith fer o gigs nos Wener yma gyda gig yn Neuadd y Frenhines, Arberth.

Bydd y gig yn Arberth yn digwydd ar 20 Mai cyn iddi symud ymlaen i berfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 26 Mai. 

Bydd dau gig arall yn y gyfres fer sef perfformiad yn The Gate, Caerdydd ar 10 Mehefin, ac yna yn nghanolfan Pontio, Bangor ar 11 Mehefin. 

Manylion y gigs yma, a llwyth o gigs eraill ar galendr gigs Y Selar.

Georgia Ruth