Gydag ansicrwydd y pandemig yn parhau, a gigs yn brin, roedd 2021 yn flwyddyn arall lle penderfynodd nifer o brif fandiau’r sin i orffwys am ychydig eto.
Rhoddodd hyn gyfle pellach i lawer o artistiaid yna sydd wedi bod fymryn ar yr ymylon, yn bygwth torri trwodd, i wneud eu marc gyda chynnyrch newydd.
Daeth record hir gyntaf gan Papur Wal, albwm cyntaf hir ddisgwyliedig (iawn) gan Breichiau Hir, albwm cyntaf gan Pys Melyn…a deuddeg sengl gan Sywel Nyw.
Wrth i’r grwpiau uchod, ac eraill, gamu’n llwyddiannus o gysgodion prif fandiau Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, gellid dweud mai her Sywel Nyw, sef prosiect unigol Lewys Wyn, oedd ceisio camu o gysgod ei fand llwyddiannus ei hun, Yr Eira.
Mae Lewys, fel ffryntman Yr Eira wedi dod yn un o ffigyrau amlycaf y sin. Ond mae hefyd wedi bod yn gweithio’n dawel bach ar ei brosiect unigol, gan ddal sylw’r gwybodusion, os nad y gynulleidfa ehangach…nes 2021.
Heb amheuaeth mae’r pandemig wedi gwneud bywyd yn anodd i fandiau byw gwych fel Yr Eira, tra bod artistiaid unigol a mwy amgen wedi manteisio ar y cyfle i arbrofi a gwneud pethau ychydig bach yn wahanol. Mae hynny’n sicr yn wir am Sywel Nyw, enillydd teitl ‘prosiect mwyaf uchelgeisiol 2021’!
12 sengl, un bob mis, gan gyd-weithio gydag artist unigol ar bob un.
“Mewn gwirionedd nes i ddechra chwara hefo’r syniad nol yn Ebrill 2020 [ar ddechrau’r pandemig] – o’n i isio gneud ‘wbath yn wahanol i’r arfer so neshi ddechra meddwl tu allan i’r bocs am syniada’ o ryddhau senglau” eglura Lewys wrth Y Selar.
“Do’n i’m isio g’neud albwm ar ei ffurf draddodiadol felly dyma oedd y syniad gora’ ddes i fyny hefo! Oherwydd mod i’m yn fand o’n i’n gweld fod gen i’r rhyddid i neud be bynnag o’n i isio.”
“rwbath oedd yn adlewyrchu Cymru heddiw”
Mae ‘na ddigon o artistiaid yn rhyddhau 12 trac mewn blwyddyn wrth gwrs – mae pobl fel Euros Childs a Mark Roberts (Mr) yn gwneud hynny bob blwyddyn yn ddiweddar ar ei halbyms! Ond mae ‘na wahaniaeth mawr rhwng ysgrifennu a recordio deuddeg cân ar ei pen eich hun, o’i gymharu â gosod her o wneud hynny gydag artist gwahanol, sydd yn anochel â syniadau gwahanol i’ch rhai chi.
Felly beth oedd yr ysgogiad dros ddewis yr her yma?
“I fod yn onest mae ‘na artistiaid a cherddorion lot mwy diddorol ’na fi yma yng Nghymru, artistiaid sydd gen negeseuon ‘o sylwedd i’w hadrodd” meddai Lewys.
“Mi oedd o hefyd yn ychwanegu elfen greadigol wahanol i’r gerddoriaeth o’n i’n greu. O’n i isio creu rwbath oedd yn adlewyrchu Cymru heddiw.”
Mae’r amrywiaeth o bartneriaid cerddorol mae Sywel Nyw wedi gweithio gyda nhw dros y flwyddyn yn eang ac amrywiol. Gyda phrosiect fel hyn mae’n rhaid bod temtasiwn i dargedu eich harwyr cerddorol, ond roedd mwy iddi ‘na hynny eglura Lewys.
“Mae ‘nag artistiaid o’n i’n eu hedmygu, a hefyd ro’n i isio rhoi platfform i ambell artist newydd fel bod y sin yn cael clywed rhywbeth ffresh yn hytrach na’r un hen bethau.”
Ac mae’r cyfuniad yna o gerddorion eiconig (fel Mark Roberts ac Endaf Emlyn), rhai cyfoes amlwg (fel Glyn Mellt a Gwenllian Adwaith), rhai newydd (fel Gwenno Morgan a Lauren Connelly) a hyd yn oed rhai sydd wedi llithro i’r cefndir am ychydig fel Ioli Selyf, yn sicr yn rhoi rhyw wedd fresh i’r holl beth.
Ac roedd popeth i’w weld wedi gweithio’n hynod o slic, gyda rhywun yn disgwyl yn eiddgar i’r sengl ddiweddaraf yna ollwng ar ddydd Gwener olaf pob mis. Er hynny, mae Lewys yn cyfaddef bod y ded-lein yn teimlo’n dynn ambell fis…
“Odd hi’n bach o push ar ambell un ond ar y cyfan dodd o ddim yn bad.
“Do’n i ddim wir yn gorfod cyrradd unrhyw deadline nes wythnos cyn y release, os fysa gena’i lot fwy o bres tu ôl i’r prosiect yna fyswn i di licio gorffen bob dim blwyddyn o flaen llaw er mwyn dilyn campaign ychydig bach gwell, ond di hynna ddim wir yn bosib efo budget bach iawn fel odd gen i.”
Cyllideb fach neu beidio, does dim amheuaeth fod y prosiect wedi creu a chynnal momentwm dros y flwyddyn ddiwethaf, ac o fod yn artist lled ymylol cyn hyn, mae’n deg dweud bod Sywel Nyw yn dipyn mwy na ‘phrosiect unigol ffryntman Yr Eira’ erbyn hyn.
“Pwy a wyr…” meddai Lewys
“…dwi’n gobeithio fod yr enw wedi llwyddo i gyrraedd corneli ychydig yn wahanol o gwmpas Cymru, a gobeithio erbyn i fi ryddhau petha nesa bydd na ychydig mwy yn ymwybodol o’r enw.”
Feinyl a chrysau T
Un peth sy’n dyrchafu artist cerddorol o fod yn brosiect i ryw lefel newydd o statws ‘siriys’ ydy rhyddhau albwm, ac un o ganlyniadau’r gyfres o senglau ydy rhyddhau’r cyfan fel record hir.
Senglau’n unig oedd wedi ymddangos gan Sywel Nyw cyn y prosiect yma. Nawr mae ganddo albwm cyntaf i’w enw, allan ar feinyl, a chrysau T i fynd efo fo!
Oes hi wastad yn fwriad rhyddhau’r casgliad i senglau fel albwm ar ddiwedd y daith felly?
“Dwi’n meddwl oedd hi just yn gneud synnwyr i ryddhau’r sengla’ fel albwm – mae o gyd yn perthyn i’r un casgliad mewn ffordd felly mae o’n g’neud synnwyr fod popeth i’w weld ar yr un cynnyrch.”
Wrth gwrs, mae’r diwydiant cerddoriaeth, diolch yn bennaf i’r llwyfannau gwrando digidol, wedi symud yn fwyfwy i roi pwyslais ar senglau, a’r galw am ‘hits’ rheolaidd i’w cynnwys ar restrau chwarae poblogaidd. Roedd prosiect Sywel Nyw yn cwrdd â’r briff hwnnw’n berffaith yn ôl pob golwg diolch i’r amrywiaeth artistiaid a photensial i gyrraedd cynulleidfaoedd gwahanol rhain.
Er y patrwm diweddar yma, mae nifer o fandiau’n parhau gyda’r fformiwla traddodiadol hwnnw o ‘single, single, album’ wrth hyrwyddo cynnyrch…efallai y gellir dadlau mai fersiwn mwy eithafol o’r fformiwla hwnnw ydy ‘single x12, album’ Sywel Nyw!
Ond mae’r cwestiwn yn codi, gyda phob un o’r traciau yma’n gorfod sefyll ar eu traed eu hunain fel senglau yn y lle cyntaf, ydyn nhw wir yn gweithio fel cyfanwaith ar record hir?
“Cwestiwn da” ydy ymateb Lewys.
“Mae o’n adlewyrchu’r flwyddyn a mae’r running order yn dilyn y misoedd felly dwi’n meddwl mai dyna sut mae’r casgliad yn gweithio ora’.
“Mae o’n albwm sy’n gweithio yn wahanol i albwm traddodiadol – mae o’n adlewyrchu artistiaid penodol yn hytrach nag un grŵp, felly does ddim angen i’r themáu fod yr un peth, neu i’r geiria’ fod yn dilyn cysyniad penodol, mae o’n gasgliad aml-gyfrannog sy’n sefyll yn weddol unigryw gobeithio, ac yn adlewyrchu’r sin gerddoriaeth ac artistiaid yng Nghymru yn 2021.”
Ac mae’n amlwg nad oes angen llawer o ddwyn perswâd o hyn ar y gynulleidfa – rhyddhawyd Deuddeg ar ddydd Gwener 21 Ionawr, ac erbyn diwedd y diwrnod hwnnw roedd y label, Lwcus T, yn rhannu’r newyddion bod pob copi o’r record feinyl wedi eu gwerthu!
Er bod feinyl wedi cael adferiad dros y blynyddoedd diwethaf ac mai rhediad nifer cyfyngedig o gopïau oedd hwn, nid ar chwarae bach mae artist cyfoes yn gwerthu pob copi o rediad cyntaf record mewn llai na diwrnod!
Mae’n amlwg bod Sywel Nyw wedi taro ar fformiwla sy’n gweithio, felly wedi blwyddyn brysur bydd yn ddiddorol gweld i ba gyfeiriad yr aiff Lewys nesaf gyda Sywel Nyw. Ydy o’n debygol o fynd yn ôl ar ryddhau cynnyrch yn unigol, neu barhau i gyd-weithio gydag artistiaid eraill?
“Jyst parhau i ryddhau a chyd-weithio” ydy’r ymateb i’r cwestiwn.
“Dwi’n gweld yr elfen cyd-weithio yn weddol greiddiol i bopeth erbyn hyn a dwi’n edrych ymlaen at weithio hefo llwyth o artistiaid gwahanol dros y blynyddoedd nesa!”
Gyda llwyddiant casgliad Deuddeg, a dim prinder o artistiaid gwych i gyd-weithio â hwy yng Nghymru ar hyn o bryd, tybed a welwn ni Bedwar ar Hugain nesaf? Siawns bod 24 cân mewn 24 awr yn ormod o her i Sywel Nyw hyd yn oed, ond 24 yn 2024…mae ‘na rywbeth yn hwnna!