Mae Dienw wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 22 Ebrill.
‘Targed’ ydy enw’r trac newydd gan y ddeuawd o Arfon, a dyma’r sengl ddiweddaraf i’w rhyddhau fel rhan o’r gyfres i nodi pen-blwydd y label RecordiauI KA CHING yn 10 oed.
Bydd y trac hefyd yn ymddangos ar y record feinyl ddwbl sy’n cael ei ryddhau gan I KA CHING ar 20 Mai eleni.
‘Targed’ ydy cynnyrch cyntaf Dienw ers dwy flynedd, a hwythau ond ar ddechrau eu bywyd fel band cyn y daeth y cyfnod clô.
Recordiwyd y trac newydd yn Stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth gyda Rich Roberts dros ddeuddydd chwilboeth yn haf 2021, ac mae’r sengl seicadelig yma yn crisialu egni byw’r grŵp a’n siŵr o ddod yn un o diwns mwyaf yr haf.
Dienw yw Twm Herd (prif lais a gitâr) ac Osian Land (drymiau), ac mae’r ddeuawd yn dod o Ddyffryn Peris.
Y newyddion da pellach ydy bod y ddau’n brysur yn gweithio ar eu halbwm cyntaf, ac mae ‘Targed’ yn damaid i aros pryd perffaith sy’n arddangos sain newydd ac aeddfetach y grŵp.
I gyd-fynd â’r sengl, mae Lŵp, S4C wedi rhyddhau fideo ar gyfer ‘Targed’ ar eu lwyfannau digidol: