Dolig Diddiwedd Elis Derby

Nid Elis Derby ydy’r artist Cymraeg cyntaf fyddai’n dod i’r meddwl wrth drafod caneuon Nadolig, ond mae wedi rhyddhau ei sengl Nadoliglaidd  ar label Recordiau Côsh.

Rydan ni wedi hen arfer gweld ton o ganeuon Nadolig yn cael eu rhyddhau’r adeg hon o’r flwyddyn…ambell un o ffynonellau annisgwyl, ac yn sicr gellid dweud hynny am Elis.

Er hynny, gallech ddweud bod tro yn y gynffon ac mai nid cân Nadolig draddodiadol ydy hon. 

‘Dolig Diddiwedd’ enw’r trac newydd gan y cerddor poblogaidd o’r Felinheli. 

Fel y gallech ddisgwyl o ystyried cymeriad tafod ym moch Elis, mae wedi cyfansoddi cân Nadolig ddigon amgen wrth i’r geiriad drafod person sydd ag obsesiwn â’r ffilm antur enwog ‘Die Hard’. 

Mae’r ffilm honno’n aml yn codi mewn trafodaeth ynglŷn â ffilmiau Nadolig gydag anghytuno’n aml dros ei haddasrwydd i fod yn y genre hwnnw. A hei, pwy all ddadlau nad gwir ystyr y Nadolig ydi lladd ‘bad guys’ a dringo adeilad anferth drwy deithio drwy ei system awyru

Joio hon!