‘Drama Queen’ yn drydydd sengl Tara

Does dim dal nôl ar Tara Bandito ar hyn o bryd wrth iddi ryddhau ei thrydydd sengl o’r flwyddyn, ‘Drama Queen’.  

Y cynllun gwreiddiol i Tara gyda’i phrosiect cerddorol newydd oedd i ryddhau tair sengl ac yn gweld sut oedd pethau’n mynd.

Mae’r ymateb wedi bod yn ardderchog a phethau wedi mynd cystal nes ei bod wedi chwarae ei sioe fyw gyntaf cyn hyd yn oed rhyddhau’r drydedd sengl, a hynny yn y Roundhouse yn Llundain. 

Pan gafodd Tara’r alwad gan brosiect Gorwelion y BBC gyda manylion y gig, doedd ganddi ddim band yn ei le a dim syniad sut i ail-greu’r synau unigryw sydd yn ei cherddoriaeth yn fyw.

Ond roedd y gig yn ormod o demtasiwn i’w wrthod ac felly mis yn ddiweddarach roedd gan Tara Bandito sioe fyw wnaeth blesio pawb oedd yno gychwyn mis Mawrth, gan gynnwys adolygwr un wefan gerddoriaeth amlwg. 

“This is more than a gig; this is a theatrical SHOW!” – meddai James Auton o wefan ‘God is in the TV’ wrth adolygu’r perfformiad.

Ers hynny , mae nifer o gigs wedi’i trefnu ar gyfer yr haf a bydd cyfle i weld y band mewn nifer o wyliau, yn cynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau a Focus Wales yn Wrecsam.

Trac mwyaf amrwd hyd yma

Mae ‘Drama Queen’ yn un o ganeuon mwyaf amrwd yr artist hyd yn hyn, yn hedfan o iaith i iaith yn ddi-ymddiheuriaid, yn cynnwys curiadau a synnau electroneg ewfforig, ond hefyd yn cadw i’r pop indî pur sydd wedi dod yn rhan annatod o’i cherddoriaeth. 

Mae’r gytgan “Ong Namo Guru Dev Namo” yn cyfieuthu i “Rwy’n ymgrymu i’r doethineb dwyfol ynof fy hun” sef llafrgan a ddysgodd Tara allan yn India wrth hyfforddi fel athrawes yoga. 

Rhoddodd y doethineb newydd yma y gallu i Tara siarad efo’i hun yn ifanc, ac yng ngeiriau’r gân mae hi’n rhoi maddeuant i’w hun am unrhyw gamgymeriadau ac yn dadorchuddio’i hun fel person newydd di-ofn.

Mae ‘Drama Queen’ yn ddilyniant i ddwy sengl flaenorol Tara Bandito – rhyddhawyd ‘Blerr’ ym mis Ionawr eleni, ac yna ‘Rhyl’ ym mis Chwefror.  

Roedd fideos trawiadol ar gyfer y ddwy sengl gyntaf, ac unwaith eto mae fideo o ‘Drama Queen’ sydd wedi’i greu gan Andy Neil Pritchard.

Roedd modd gwylio’r fideo am y tro cyntaf ar wefan FOCUS Wales ar y dyddiad rhyddhau. Cafodd y fideo ei ariannu drwy grant o gronfa Lansio cynllun Gorwelion BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.