Dyddiad newydd (eto) ar gyfer gig Mr

Mae trefnwyr gig Mr oedd i fod i ddigwydd yn Llanrwst cyn y Nadolig, wedi cyhoeddi dyddiad newydd am yr eildro ar gyfer y perfformiad.

Yn wreiddiol, roedd y gig i fod i ddigwydd yn Clwb Llanrwst ar 26 Tachwedd.

Bu’n rhaid gohirio bryd hynny oherwydd achos o Covid ym mand Mr gyda dyddiad newydd yn cael ei gyhoeddi ar 14 Ionawr.

Bellach, mae’r dyddiad hwnnw wedi’i ohirio hefyd oherwydd canllawiau Covid cyfredol Llywodraeth Cymru ac mae’r trefnwyr wedi gosod dyddiad newydd ar 16 Ebrill.

Gyda Mark Roberts, sy’n gyfrifol am Mr, yn un o feibion enwocaf Llanrwst, roedd cryn edrych ymlaen at ei weld yn perfformio caneuon ei albwm newydd nôl gartref.

Bydd Y Cledrau yn cefnogi Mr yn y gig pan fydd yn digwydd, a bydd modd i unrhyw un sydd eisoes wedi prynu tocyn ei ddefnyddio ar y dyddiad newydd.