Ar ôl gorfod gohirio’r digwyddiad ar y dyddiad gwreiddiol ym mis Mehefin, mae trefnwyr Gŵyl Neithiwr ym Mangor wedi cyhoeddi manylion dyddiad newydd yr ŵyl.
Bydd y gig yn cael ei gynnal nawr ar 18 Mehefin yng Nghanolfan Pontio, Bangor. Cynhaliwyd yr ŵyl am y tro cyntaf yn Ionawr 2020 – un o’r gigs Cymraeg mawr olaf cyn y cyfnod clo fel mae’n digwydd.
Yr artistiaid sy’n perfformio’r tro hwn ydy Adwaith, HMS Morris, Bandicoot, Pys Melyn, 3 Hwr Doeth, Mali Hâf, Mellt. Eädyth a SYBS. Mae Llinos Owen wedi creu gwaith celf ar gyfer yr ŵyl a bydd setiau DJ ar y diwrnod hefyd gan Tindall a Roughion.
Mae tocynnau’r ŵyl ar werth nawr trwy wefan Pontio am £15, gyda phris o £17 ar y dydd.
Mwy o wybodaeth ar ddigwyddiad Facebook Gŵyl Neithiwr.