Mae Elis Derby wedi rhyddhau ei sengl newydd ar label Recordiau Côsh heddiw.
Enw’r trac newydd ydy ‘Lawr ar fy Nghwch’ a hon ydy’r drydedd sengl i’w rhyddhau o ail albwm y cerddor o’r Felinheli.
Mae’r albwm newydd wrthi’n cael ei gymysgu a mastro yn stiwdio Sain ar hyn o bryd, ac yn ddilyniant i’w albwm unigol cyntaf, ‘3’, a ryddhawyd ar ddiwedd mis Ionawr 2020.
Cafwyd blas cyntaf o’r albwm newydd ym mis Ebrill gyda’r sengl ddwbl ‘Disgo’r Boogie Bo’ a ‘Gadawa Fi Mewn’.
Mae naws o angen dianc yn ‘Lawr ar fy Nghwch’ ac mae’n disgrifio’r teimlad o’r angen i gael lle i fynd pan fydd pethau’n mynd yn ormod.
Cafodd y trac ei gyd-ysgrifennu gan Gethin Griffiths, sy’n rhan o’r band Ciwb gydag Elis, ac mae’r artist wedi dogfennu’r broses, o greu’r demo yr holl ffordd at recordio’r gân orffenedig.
“Mae’r cwch yn metaffor am be bynnag da chi’n cael cic allan ohono fo fel modd o deimlo’n well am rhywbeth” eglura Elis.