Mae gŵyl FOCUS Wales yn Wrecsam wedi cael eu henwebu ar gyfer dau gategori yng ngwobrau’r ‘UK Festival Awards 2022’.
Sefydlwyd yr ŵyl yn 2010 gyda’r bwriad o arddangos y talent cerddorol Cymreig diweddaraf ac ers hynny mae wedi mynd o nerth i nerth gan sefydlu ei hun fel un o uchafbwyntiau’r calendr diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Dychwelodd yr ŵyl i’w slot arferol ar ddechrau mis Mai eleni’n dilyn dwy flynedd o orfod addasu oherwydd y pandemig, ac roedd croeso mawr i hynny.
Fel arwydd pellach o lwyddiant y digwyddiad mae wedi cyrraedd rhestr dau gategori yng Ngwobrau Gwyliau’r DU 2022 sef yr ‘Ŵyl Metropolitan Orau’ a’r ‘Ŵyl Fach Orau’ (ar gyfer gwyliau gyda llai na 10,000 o gynulleidfa bob dydd.
Mae modd i’r cyhoedd bleidleisio dros y rhestrau byr ym mhob categori nes 29 Hydref, gyda’r rhestrau byr yn cael eu cyhoeddi ar 1 Tachwedd. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni ym Manceinion ar 6 Rhagfyr.