Hel Clecs ydy enw’r prosiect cerddorol newydd gan y rapiwr Mr Phormula, a bydd eu EP cyntaf allan ddydd Gwener nesaf, 19 Awst.
‘S.A.I.N. (Sound Acquired in Nature)’ ydy enw’r EP cyntaf gan Hel Clecs, ac mae’n cael ei ryddhau ar label Bard Picasso.
Deuawd ydy Hel Clecs sy’n gweld Mr Phormula (Ed Holden) yn cydweithio unwaith eto gyda’r artist arloesol o Rhode Island, Lord Willin. Bu i’r ddau gyd-weithio’n gynharach yn y flwyddyn gan ryddhau’r sengl ‘Roads’ ym mis Chwefror, a phenderfynu ffurfio grŵp a brand cynhyrchu cerddoriaeth newydd yn dilyn hyn.
Yr EP chwech trac ‘S.A.I.N’ ydy cynnyrch cyntaf Hel Clecs ac fe gynhyrchwyd y record fer yn gyfan gwbl gan Mr Phormula yn Stiwdio Panad yn Llanfrothen.
Sengl arweiniol y casgliad byr ydy ‘No Holding Us Back’ ac mae’r trac yn arddangos pob agwedd o’r prosiect newydd gyda chynhyrchiad pwerus a phenillion siarp.
Hefyd yn ymuno â’r ddeuawd ar yr EP mae’r cerddor Spit Gemz, ynghyd â’r rapiwr Ayewun ar y trac ‘Sounds of The Titans’. Mae rapiwr arall o Rhode Island, Redd Rebel, hefyd yn arwain y ffordd ar y trac ‘All For the Honour’.
Bydd ‘S.A.I.N.’ ar gael ar yr holl lwyfannau arferol ddydd Gwener yma, 19 Awst.