EP cyntaf Mali Hâf 

Mae’r artist ifanc o Gaerdydd, Mali Hâf, wedi rhyddhau ei EP cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 25 Tachwedd. 

EP hunan-deitlog ydy hwn sydd allan ar label JigCal ac fe ddaw’n dilyn rhyddhau’r ddwy sengl, 

‘Pedair Deilen’ a ‘Fern Hill’ ganddi dros y misoedd diwethaf.  

Mae harddwch yn rhedeg fel plethen Geltaidd drwy’r caneuon, ac mae arddull unigryw Mali i’w glywed ym mhobman. 

Un o’r caneuon ar yr EP ydy ‘Si Hei Lwli’ sy’n cael ei disgrifio gan Mali fel  “cyfeiliant synth breuddwydiol, gyda’r drymiau a bas cynnil yn cefnogi’r alaw werin/bop ddeniadol. Yr effaith gyffredinol yw tro modern ar yr hwiangerdd werin”. 

Mae byd natur yn hynod o bwysig i Mali, ac fe welir hyn yn ‘Pili Pala’s Prayer’, cân sydd wedi ei dylanwadu arni gan un o hoff awduron Mali, Phillip Pullman. 

Mae’r gallu gan Mali, a’i chyd-gynhychydd Minas (James Minas-Blight), i lifo’n ddi-drafferth o un genre i’r llall, gan gynnwys curiadau grime, gitar drydan, a synths

Un arall o’r caneuon ar y casgliad ydy ‘Llygaid Tara’ sy’n faled ysbrydol ac sydd â neges ddofn yn ôl y gantores.  

Mae’n cychwyn fel cân serch gonfensiynol, ond yn datblygu i fod yn gân serch i fyd natur y blaned a’r gwerthoedd ysbrydol sy’n deillio o hynny” eglura Mali. 

“Duwies Bwdiaidd yw Tara, sy’n dangos tosturi a chariad at bopeth sy’n byw”

Roedd lansiad swyddogol yr EP yn Tiny Rebel, Caerdydd nos Iau diwethaf, 24 Tachwedd. 

Dyma ‘Llygaid Tara’: