EP newydd Accü ar y ffordd

Mae Accü, sef prosiect diweddaraf Angharad van Rijswijk gynt o’r grŵp Trwbador, yn paratoi i ryddhau EP newydd.

Follow The Ivy‘ ydy enw’r EP 4 trac newydd sydd allan ar 10 Mehefin ac sy’n  gweld Accü ar ei mwyaf hybarch, yn gadael i’r gerddoriaeth ei thywys i fan o iachâd tu hwnt i ymylon miniog afreolus y byd.

Mae’r EP yn gasgliad o ganeuon offerynnol a melodaidd cyfoethog sy’n teimlo fel dechrau newydd, pennod newydd i’r artistiaid swynol a hudolus hwn.

“Ganed ‘Follow The Ivy‘ yng nghuddfan a chyfyngiadau llwyr ein cyfnod modern cyfunol.

“Cydio yn y winwydden – siglo a datgysylltu o’r deyrnas hon a chrwydro ar eich pen eich hun y tu mewn i’r goedwig fewnol – yn gysurus heb unrhyw gyrchfan mewn golwg” meddai Accü am yr EP.