Artist sydd wedi cael blwyddyn hynod gynhyrchiol gan adeiladu ar y flwyddyn flaenorol yw Mail Hâf.
Mae hi wedi rhyddhau swp o senglau, ac wedi cloi’r flwyddyn gydag EP – hynny oll ar ben rhoi ei henw reit o flaen llygaid dilynwyr y sîn Gymraeg ar Cân i Gymru.
Ydy hi’n teimlo felly bod 2022 wedi bod yn flwyddyn o gam mawr cyntaf ymlaen yn ei gyrfa?
“Mewn rhai llefydd, do, a mewn llefydd eraill, dim cweit” medai Mali wrth Y Selar.
“O ran cael fy enw i mas, a dechrau gyrfa, mae ‘di bod yn wych, a dwi ’di bod yn arbrofi a chwrdd a phobl a tyfu fy nghymuned cerddorol,” meddai’r artist o Gaerdydd.
“Ond o ran ffeindio fy sain i a gwbod yn bendant pwy ydi Mali Hâf, dwi ddim cweit yna eto dwi ddim yn meddwl.
“Mae e’n daith, ti ddim yn gw’bod yn syth be ti’n mynd i ‘neud. Hyd yma mae’r daith wedi bod yn amazing, dysgu sut i weithio gyda pobl a creu stwff – can’t complain.
“Dwi wastad ar full speed, isio gwneud cân dda a newid fy sain i, ond pan dwi’n edrych nôl a gweld be dwi ‘di ‘neud mewn un flwyddyn, dwi wedi ticio’r to-do list.”
Cyrraedd carreg filltir
Mae’r EP, ‘Mali Hâf, gafodd ei ryddhau ar Recordiau JigCal ddiwedd mis Tachwedd, yn teimlo fel carreg filltir bwysig yn ei gyrfa.
Nid casgliad o’i chynnyrch i gyd mohono; mae’n gyfanwaith sy’n sicr yn ddatblygiad pellach o’r gerddoriaeth yr ydym yn ei hadnabod amdani.
“Mae ca’l caneuon i gyd mewn un lle a meddwl am thema ac os ydyn nhw’n mynd gyda’i gilydd yn her newydd, a dysgais i lot am fy hun ac am fy ngherddoriaeth, ac o’dd e’n rhan fawr o’n nhaith cerddorol i.
“O’n i’n ‘sgwennu in general, ond o’n i’n dechrau sylweddoli o’dd ‘na thema naturiol a inner child yn dechrau dangos, a nes i sylwi bod rhain yn mynd gyda’i gilydd,” meddai.
“Dwi dal yn ceisio ffeindio’r cydbwysedd rhwng y sain electroneg a’r band; mae gen i ‘bach o’r ddau yn yr EP ond bydd falle bydd mwy o electroneg flwyddyn nesaf.”
A sôn am flwyddyn nesaf, mae ganddi gynlluniau cyffrous wrth iddi barhau i weithio tuag at ddod o hyd i hunaniaeth gerddorol Mali Hâf.
“Mae gen i plan, ac mae’r plan hwnnw’n cynnwys albwm a bydd ‘na senglau yn dod mas tuag at yr albwm [fydd allan] tuag at ddiwedd y flwyddyn.
“Dwi’n teimlo fel bod yr EP yn warm-up a ma llawer mwy o pwy yw Mali Haf yn mynd i ddod yn 2023.”
Dyma ‘Fern Hill’ o’r EP:
Geiriau: Gruffudd ab Owain