EP The Mighty Observer allan ddiwedd y mis

Bydd The Mighty Observer yn rhyddhau ei EP newydd ar 29 Ebrill ar label Recordiau Cae Gwyn. 

‘Under The Open Sky’ ydy enw’r EP newydd gan brosiect unigol y cerddor Garmon Rhys. Mae Garmon hefyd yn adnabyddus fel aelod o’r grŵp Melin Melyn. 

Dyma’r ail EP i The Mighty Observer ar label Recordiau Cae Gwyn, gan ddilyn y record fer ‘Okay, Cool’ a ryddhawyd ddiwedd mis Hydref. 

Denodd yr EP cyntaf ganmoliaeth a chefnogaeth radio eang, gyda’r caneuon yn cael eu chwarae ar BBC 6 Music, BBC Radio Cymru, BBC Radio London a BBC Radio Wales. 

Cafodd hefyd ei chwarae ar y radio yn yr Alban, Iwerddon, Ffrainc, Efrog Newydd a Chanada.

Yn ôl y label mae’r EP newydd yn fwy breuddwydiol a byrhoedlog na’i ragflaenydd.. Cafodd Under The Open Sky ei ysgrifennu a’i recordio gan Garmon yng Nghymru a Llundain.