‘Eto’ yn gân y dydd gorsaf KEXP

Sengl ddiweddaraf Adwaith, ‘Eto’, oedd dewis gorsaf radio KEXP yn America o ‘Gân y Dydd’ ddoe (9 Mawrth).

Dyma’r tro cyntaf i drac Cymraeg gael ei ddewis fel Cân y Dydd ar yr orsaf  adnabyddus sy’n darlledu o Seattle ger Washington, felly mae’n dipyn o sgŵp unwaith eto i’r triawd o rGaerfyddin.

Rhyddhawyd y sengl ar label Recordiau Libertino ar 22 Chwefror ac mae’n flas cyntaf o albwm newydd Adwaith, Bato Mato, fydd allan ar 1 Gorffennaf.

Mae KEXP yn orsaf radio enwog sy’n darlledu ers 50 blynedd bellach, ac yn canolbwyntio ar gerddoriaeth amgen a roc indî.

Y cyflwynydd Kevin Cole, sy’n gyfrifol am raglen Drive Time yr orsaf ddewisodd y trac, yn rhannol er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ddydd Mawrth.