Bydd Sister Wives yn rhyddhau fersiwn newydd o’u EP cyntaf, ‘Gweler Ein Gofid’ ar ffurf record feinyl 12” ar 29 Mawrth.
Rhyddhawyd yr EP yn wreiddiol gan y grŵp o Sheffield ym mis Tachwedd 2020, a hynny ar y label Do It Thisen.
Mae’r fersiwn newydd yn cael ei ryddhau gan label Recordiau Libertino, ac yn cynnwys y tri thrac gwreiddiol ar ochr 1 y record newydd, yn ogystal ag ailgymysgiad newydd o bob un ar ochr 2 yr EP.
Caru cydweithio
Ffurfiodd Sister Wives fel grŵp dwyieithog yn 2018 gyda’r bwriad o rannu chwedlau gwyllt mewn caneuon sy’n gwibio rhwng y Gymraeg a’r Saesneg dros felodïau ogofaidd a hypnotig.
Mae’r grŵp yn caru cydweithio, ac er mwyn parhau â’r ysbryd hwnnw pan oedd teithio’n amhosib, maent wedi gofyn i dri artist ail-gymysgu traciau’r EP gwreiddiol ar gyfer y fersiwn newydd yma.
Ani Glass sydd wedi ailgymysgu ‘Wandering Along / Rwy’n Crwydro’, Gnoomes (Rocket Recordings) sydd wedi creu’r fersiwn newydd o ‘The Sun Will Come / Mi Ddaw yr Haul’, ac mae Mandy, Indiana wedi ail-gymysgu ‘Gweler ein Gofid / See Our Grief’.
“Rydym wastad wedi bod eisiau ailgymysgu ein tiwns” meddai Sister Wives
“… felly pan ddaeth sôn am ailgyhoeddiad roedden ni’n gwybod ei bod hi’n amser gofyn i rai o’n hoff artistiaid presennol weithio eu hud! Roedden ni eisiau sain gwahanol ar bob un o’r caneuon ac yn gwybod y byddai Ani Glass, Mandy, Indiana a Gnoomes yn creu tirwedd ddiddorol wrth ymyl ei gilydd ar y record.
“Mae wedi bod yn gymaint o bleser i ni glywed beth mae’r artistiaid ysbrydoledig hyn wedi’i greu o’n EP.”
Albwm ar y ffordd
Rhediad cyfyngedig o’r EP gwreiddiol a ryddhawyd yn 2020 gyda phob copi’n gwerthu’n syth bin.
Mae’r fersiwn newydd allan ar record feinyl melyn llachar gyda’r gwaith celf wedi’i greu gan aelod y band, Lisa O’Hara, ac yn cynnwys lluniau o Fynydd Parys ar Ynys Môn. Laura Merrill sydd wedi tynnu’r lluniau hyn.
Ysbrydolwyd ‘Wandering Along / Rwy’n Crwydro’ gan gerdded llwybrau arfordir Môn; tra bod ‘The Sun Will Come / Mi Ddaw Yr Haul’ wedi’i ysgrifennu yn nyfnder y gaeaf, yn disgwyl am aileni a chynhesrwydd y gwanwyn. Mae’r trydydd trac, ‘See My Grief / Gweler Ein Gofid’ yn dal ymchwydd emosiynol a gafael galaru.
Mae’r EP yn dilyn sengl ddwbl Sister Wives ar y cyd gydag un o grwpiau eraill Recordiau Libertino, Tacsidermi. Rhyddhawyd ‘O Fy Nghof’ ac ‘A Oes Heddwch’ ddiwedd mis Tachwedd.
Yn ôl Libertino, bydd Sister Wives yn rhyddhau eu halbwm cyntaf yn ddiweddarach yn y flwyddyn.