Ffracas yn ôl gyda sengl newydd

Ffracas ydy’r grŵp diweddaraf i ryddhau sengl fel rhan o ddathliadau pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed. 

‘Gwingo’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 4 Mawrth, ac a fydd hefyd yn ymddangos ar yr albwm ‘I KA CHING – 10’ sydd allan ar 20 Mai. 

Er mai llynedd yn 2021 oedd I KA CHING yn dathlu’r arreg filltir o gyrraedd degawd, doedd dim modd dathlu’n iawn oherwydd cyfyngiadau Covid. Mae’r dathlu’n parhau felly gyda  chlamp o gasgliad o ganeuon newydd ac ailgymysgiadau gan artistiaid y label, gan gynnwys y trac newydd gan Ffracas.

Bydd gweld sengl newydd yn ymddangos gan Ffracas yn ychydig o syndod i nifer gan fod y mwyafrif o’r aelodau wedi symud yn eu blaenau i fod yn rhan o’r prosiect seicadelig electronig Pys Melyn. 

Er hynny mae’n braf eu gweld yn troi nôl at eu hen fand. Mae’n hawdd gweld datblygiad aruthrol yma o hen sŵn Ffracas wrth i’r gitârs trydan gael eu cyfnewid am offerynnau mwy acwstig.

“Mi wnaetho ni recordio’r gerddoriaeth rhai blynyddoedd yn ôl, wrth arbrofi efo offerynnau gwahanol a thrio symud i ffwrdd o’r fformiwla arferol o gitâr, bas a dryms” eglura Jac, prif ganwr Ffracas.  

“Sdeddodd y ffeil yn y drive am fisoedd cyn i’r geiriau ddod. Mae’r geiriau yn sôn am gwestiynu petha, dy hun, y petha ti’n cymyd fel rheol, a sail moesoldeb cymdeithas.”