Fideo cyntaf prosiect newydd 

Mae fideo cyntaf wedi’i gynhyrchu a chyhoeddi o gronfa newydd a sefydlwyd yn ddiweddar gan Lŵp, S4C, a’r cwmni hyrwyddo cerddoriaeth PYST. 

Nôl ym mis Mawrth cyhoeddwyd Cronfa Fideos Cerddorol rhwng Lŵp a PYST, sef cronfa lle byddai deg o artistiaid sy’n perfformio yn y Gymraeg yn derbyn £500 yr un i fynd ati i greu fideo cerddorol ar gychwyn eu gyrfa. 

Y fideo cyntaf sydd wedi derbyn nawdd, sef ‘Agor’ gan Sachasom ac mae hwn ar gael i’w weld ar-lein nawr. 

Mae Sachasom, sef Izak Zjalic, yn artist arbrofol ifanc o Fachynlleth, a gynigodd syniad mewn cydweithrediad â’r cwmni cynhyrchu Pypi Slysh (Sam Stevens a Sion Teifi Rees). Roedd PYST yn hoff iawn o’r syniad creadigol a chyffrous – creadigrwydd sy’n tywynnu yn y fideo terfynol. 

“Roedd creu’r fideo gyda Sam a Sion o Pypi Slysh yn broses unigryw gan saethu mewn steil eithaf impromptu, yn seiliedig ar y syniad gwreiddiol a chafodd ei ysbrydoli gan y ffilm Climax gan Gaspar Noe” meddai Izak.

“Er fod y fideo i ‘Agor’ yn eithaf abstract, trwy’r delweddau a symbolau gwahanol mae yna naratif sy’n dilyn fy mhrofiadau yn y broses greadigol yn creu cerddoriaeth, wrth symud o’r purdeb o greu am mwynhad, i agweddau rwyf wedi etifeddu trwy darllen am philosophy ‘hauntology’ ac y pryderon o tyfu fyny. 

“Mae hwn yn frwydr fewnol sydd yn cael ei chyflwyno dros fy albwm ‘Yr Offerynnols Uffernoliadaus!’, gyda’r nod o hybu’r syniad o greu cerddoriaeth sy’n naturiol i ti ac i beidio dilyn agenda unrhyw un arall. Cafodd y fideo ei ffilmio dros ddau leoliad sef hen dŷ a llosgodd lawr, The Vaults ym Mae Caerdydd, ac yn BEWT Studios.”

Mae Pypi Slysh yn gwmni ifanc wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac maen nhw wedi cyd-weithio â nifer o artistiaid y ddinas gan gynnwys Mellt, Midding, Tom Emlyn a The Family Battenburg. 

“Roeddwn i wedi clywed am Sachasom yn gynt yn y flwyddyn a roeddwn i’n awyddus i weithio gydag artist arall o Ganolbarth Cymru” meddai Sam Stevens, un hanner o Pypi Slysh. 

“Cyfarfu Izak a minnau ychydig o weithiau i drafod syniadau cyffredinol, ac ymhen wythnos neu ddau roeddwn ni’n barod i saethu. Saethom y fideo ar draws dau leoliad: hen dŷ gwag a hen fanc ym Mae Caerdydd. Mae’r ddau ohonom yn hoff o’r un fath o sinematograffi ac roedd gan y ddau ddigon i’w gyfeirio ato o ran dylanwad.

“Rydyn ni (Pypi Slysh) wrth ein bodd yn gwneud fideo DIY, digymell – lle nad oes dim byd i off-limits mewn gwirionedd, ac o ystyried cân mor strwythurol ddiddorol, fe agorodd y drysau i greu fideo nad yw’n gwneud unrhyw synnwyr a dweud y gwir.

“Defnyddiwyd yr arian a neilltuwyd i archebu lleoliadau ffilmio, llogi gwisgoedd a theithio ledled Cymru, yn ogystal â rhentu offer hanfodol.”