Fideo ‘Cysgod y Golau’ gan Parisa Fouladi

Mae’r gantores Parisa Fouladi wedi cyhoeddi fideo ar gyfer ei sengl ddiweddaraf, ‘Cysgod y Golau’. 

Rhyddhawyd ‘Cysgod y Golau’ fel sengl ar 26 Tachwedd 2021 a dyma sengl unigol ddiweddaraf y gantores Gymreig-Iranaidd, Elin Fouladi, sydd wedi perfformio dan yr enw El Parisa yn y gorffennol, ac sydd hefyd yn aelod o’r grŵp pop siambr, Derw. 

Cyn hyn fe ryddhaodd ei sengl gyntaf dan yr enw Parisa Fouladi, sef ‘Achub Fi’, ym mis Hydref 2020

Elin sydd wedi ffilmio a golygu’r fideo newydd ar gyfer ‘Cysgod y Golau’ i gyd, ac mae wedi dwyn dylanwad o’i phlentyndod wrth wneud hynny. 

“Nes i ddechre recordio footage o gwmpas Rhydymain a Dolgellau tua mis Tachwedd” eglura’r gantores. 

“Mae’r gân wedi ei seilio ar atgofion plentyndod yn chwarae yng nghaeau fy nhaid yn fferm Tŷ Du yn Llanuwchllyn. Fysa wedi bod yn ideal ffilmio yn fane, ond nes i jyst defnyddio’r footage o Dol a Rhydymain yn y diwedd achos oedd o’n gweddu be o’n i isio’n weledol, ac yn atgoffa fi lot o’r ardal o gwmpas fferm taid.” 

Dyma’r fid: