Fideo Lŵp newydd Sister Wives

Mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo ar gyfer sengl newydd Sister Wives.

Rhyddhawyd ‘O Dŷ i Dŷ’ fel un hanner o sengl ddwbl gan Sister Wives wythnos diwethaf wrth iddynt baratoi i ryddhau eu halbwm, ‘Y Gawres’ ar 28 Hydref.

Mae gwaith cynhyrchu, cyfarwyddo a golygu’r fideo gan Sian Adler a Lewys Mann.