Fideo newydd Vrï

Mae’r grŵp gwerin Vrï wedi cyhoeddi fideo newydd ar-lein.

Fideo ar gyfer y trac ‘Cainc Sain Tathan’ ydy hwn, sef un o draciau albwm nesaf Vrï.

Enw’r albwm fydd ‘islais a genir’ a bydd yn cael ei ryddhau ar 28 Hydref eleni.

Mae’r fideo wedi’i ffilmio yn adfail Trefaes Uchaf, Bethania yng Ngheredigion.