Mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac ‘Nôl ac yn Ôl’ gan Papur Wal ar eu llwyfannau digidol.
‘Nôl ac yn Ôl’ ydy’r sengl olaf i’w rhyddhau oddi-ar albwm cyntaf Papur Wal, ‘Amser Mynd Adra’ a ryddhawyd llynedd. Roedd yr albwm yn llwyddiannus iawn ac fe lwyddodd Papur Wal i gipio tair o Wobrau’r Selar nôl ym mis Chwefror eleni (‘Record Hir Orau’, ‘Cân Orau’ a ‘Band Gorau’).
Mae ‘Nôl ac yn Ôl’ wedi dod yn drac poblogaidd ar y tonfeddi yn ddiweddar ac mae’r fideo newydd ar gyfer y trac wedi ei gyfarwyddo gan Griff Lynch.
“Cân am bryderon dechrau perthynas newydd yw hi” meddai Ianto o ‘r grŵp am ‘Nôl ac yn Ôl’.
“Nid yw bob amser yn hawdd, ac yn aml mae sialensau ar hyd y ffordd. Fe’i hysgrifennwyd ar ôl nosweithiau di-gwsg gan fod ffenest yr ystafell wely wedi torri, ac mae’n gofyn am y llwch cysgu yr oedd fy nhad yn arfer ei roi i ni pan oeddem yn blant i’n helpu ni gysgu.
“Mae’n fath o gydnabyddiaeth o’r cylch bywyd a all neud i chi deimlo’n isel, yn enwedig yn eich 20au, gan ofni y byddwch yn colli blynyddoedd gorau eich bywyd ynghyd â cholli anwyliaid. Ond mae bywyd yn mynd yn ei flaen.”
I gyd-fynd a rhyddhau ‘Nôl ac yn Ôl’ sengl ar ddydd Gwener 22 Ebrill, mae’r grŵp wedi recordio trac fel ochr B, sef ‘Anghofia dy Hun’.
Mae’r fideo yn serennu’r actor Steffan Donnelly sydd wedi ymddangos yn y cyfresi teledu llwyddiannus ‘London Spy’ a ‘The Innocents’ ond fydd hefyd yn canu cloch i rai gan ei fod newydd ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae’r sengl a’r fideo’n cyd-fynd yn daclus â fersiwn feinyl yr albwm yn glanio – oherwydd oedi mewn gwaith cynhyrchu feinyl dros y byd, mae llawer o ffans y grŵp wedi gorfod disgwyl yn eiddgar i weld eu copi’n glanio trwy’r drws.
Ma’r fideo yma’n class…