Mae Ynys, sef prosiect diweddaraf Dylan Hughes gynt o’r Race Horses / Radio Luxemburg, wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer ei sengl ddiwethaf.
Rhyddhawyd y sengl ‘There’s Nothing the Sea Doesn’t Know’ ym mis Medi wrth i Hughes hefyd gyhoeddi fod albwm cyntaf Ynys ar y ffordd ar 4 Tachwedd.
Mae’r fideo newydd ar gyfer ar y trac wedi’i ffilmio a’i olygu gan Sam Roberts ac mae ar gael i’w wylio ar sianel YouTube label Recordiau Libertino.