Mae fideo ar gyfer sengl ddiweddaraf y grŵp Hyll wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C.
Sengl Nadolig o’r enw ‘Noson ‘Dolig wrth y Bar’ ydy’r trac diweddaraf i ymddangos gan Hyll, ac mae’n ymuno a’r doreth o senglau Nadolig Cymraeg newydd sydd wedi’u rhyddhau dros y cwpl o wythnosau diwethaf.
Maent yn cael cwmni gwestai arbennig iawn ar y sengl newydd sef eu cyfaill Katie Hall sy’n fwyaf adnabyddus fel canwr y grŵp roc o’r cymoedd, CHROMA.
Yn ôl y band mae ‘Noson ’Dolig Wrth Y Bar’ yn ddathliad o’r Nadolig gyda gwahoddiad i bawb – bechgyn a merched, da neu ddrwg!
Cyfarwyddwyd y fideo newydd gan Ynyr Morgan Ifan sydd hefyd wedi’i gynhyrchu ar y cyd ag Owain Jones a Heledd Watkins.
Mae Hyll wedi datgelu eu bod hefyd wedi bod yn brysur yn recordio eu halbwm yn Stiwdio JigCal yn ystod 2022 ac mae addewid bydd yr albwm yn gweld golau dydd yn ystod y gwanwyn.