Fideo sengl Sywel @ Lŵp

Mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo ar gyfer sengl ddiweddaraf Sywel Nyw, ‘Machlud’. 

Rhyddhawyd ‘Machlud’ ddydd Gwener diwethaf, 7 Ionawr, a dyma’r ddeuddegfed sengl mewn deuddeg mis gan brosiect unigol Lewys Wyn o’r grŵp Yr Eira. 

Mae Sywel Nyw  wedi cyd-weithio gydag artist cerddorol gwahanol ar bob un o’r senglau, ond gyda’r trac olaf mae cyd-weithio gyda’i alter ego, Lewys Wyn.

Ar ddiwrnod rhyddhau’r sengl newydd, mae cyfres gerddoriaeth S4C, Lŵp, hefyd wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y trac ar eu llwyfannau digidol.  

Mae’r fideo’n serennu’r actores Begw Rowlands ac wedi’i ffilmio yng ngolchdy dillad Bangor Uchaf. 

“Y bwriad efo hon odd jyst sgwennu ‘wbath weddol commercial, poppy, ‘wbath weddol syml” meddai Lewys Wyn am y sengl ddiweddaraf.

“Ma hi’n dwyn dylanwad gan bobl fel Frank Ocean. Ma Machlud yn gallu cyfeirio at sawl peth hefyd. Machlud ar y prosiect ac ar y flwyddyn neu machlud ar gyfnod penodol.”

Bydd albwm sy’n cynnwys pob un o ddeuddeg trac prosiect Sywel Nyw yn cael ei ryddhau ar 21 Ionawr ar label Lwcus T dan yr enw amlwg, ‘Deuddeg’.