Mae cyfres gerddoriaeth Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer sengl ‘Blerr’ gan Tara Bandito.
‘Blerr’ ydy enw sengl gyntaf y berfformwraig amryddawn dan yr enw Tara Bandito, a dyma hefyd ei sengl gyntaf ar label Recordiau Côsh.
Cyn hyn, bu’n perfformio ers yn 5 oed, yn bennaf dan yr enw Tara Bethan.
A hithau’n ddawnswraig, actores a thiwtor yoga, nid yw’n syndod bod y fideo newydd yn manteisio ar ei holl dalentau ac mae’n debyg bod gan Tara ei hun syniadau clir o’r hyn oedd hi eisiau gwneud gyda’r fideo.
Yn ogystal â fideo ar gyfer y trac, mae Lŵp hefyd wedi cyhoeddi cyfweliad fideo byr gyda’r gantores i drafod y sengl newydd.