Fleur de Lys yn ôl gyda sengl newydd

Bydd y band poblogaidd o Fôn, Fleur de Lys, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers sydd Gwener, 1 Gorffennaf.. 

‘Fory ar ôl Heddiw’ ydy enw’r trac diweddaraf gan Fleur de Lys sy’n cael ei rhyddhau ar label Recordiau Côsh.

A hwythau’n fand byw gwych, fel llawer o grwpiau eraill mae’r cwpl o flynyddoedd diwethaf wedi bod yn rai cymharol dawel i Fleur de Lys gyda chyn lleied o gyfleoedd i gigio, ond yn ôl y band mae’r sengl newydd ar gyfer yr haf yn dangos datblygiad yn sŵn cyfredol y band. 

Dyma fydd cynnyrch cyntaf  Fleur de Lys  ers rhyddhau’r  gân Nadolig, ‘Amherffaith Perffaith’, yn Rhagfyr 2020. Roedd honno’n ddilyniant i’w halbwm, ‘O Mi Awn Ni Am Dro’ a ryddhawyd yn 2019. 

Albwm newydd ar y gweill

Mae’r band yn gweithio ar ganeuon newydd ers tua blwyddyn a bydd rhain yn cael eu recordio fel mae’n nhw’n barod gyda’r bwriad o ryddhau  albwm newydd yn y pendraw. 

Fel y gân Nadolig, cafodd ‘Fory ar ôl Heddiw’  ei recordio gan ddrymiwr y band, Siôn Roberts, sydd wedi addasu garej ei gartref i mewn i stiwdio broffesiynol. 

Dros y blynyddoedd diwethaf mae band wedi sefydlu eu hunain fel un o’r rhai mwyaf poblogaidd yng Nghymru gyda chaneuon bachog a pherfformiadau egnïol mewn gigs a gwyliau ledled Cymru. 

Bu iddynt berfformio’n gynharach yn y mis yng Ngŵyl Cefni, Llangefni gan gadarnhau nad ydynt wedi colli dim o’u sbarc wrth chwarae’n fyw gyda’r band yn dweud mai dyma oedd un o’r gigs gorau erioed ganddynt. Roedd cyfle arall i weld Fleur de Lys yn perfformio’n fyw yng Ngŵyl y Felin, Felinheli ddydd Sadwrn diwethaf (25 Mehefin).