Mae’r grŵp poblogaidd o Fôn, Fleur De Lys, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 23 Medi.
‘Ffawd a Ffydd’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh ac mae’n brawf pellach o adfywiad y pedwarawd.
Hon ydy ail sengl y grŵp mewn llai na thri mis ar ôl cyfnod segur o ran cynnyrch newydd sydd wedi para bron i dair blynedd.
Mae ‘Ffawd a Ffydd’ yn ddilyniant i’r sengl ddiwethaf, ‘Fory ar ôl Heddiw’ a ryddhawyd ar ddechrau mis Gorffennaf eleni. Honno oedd cynnyrch cyntaf Fleur de Lys ers rhyddhau’r gân Nadolig, ‘Amherffaith Perffaith’, yn Rhagfyr 2020, gan ddilyn blwyddyn brysur i’r band yn 2019 wrth iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, ‘O Mi Awn Ni Am Dro’.
Wedi eu recordio yn stiwdio newydd drymiwr y band, Sion Roberts, mae ‘Ffawd a Ffydd’ yn dangos datblygiad yn sŵn y band, sydd wedi bod yn rhan o’u sioeau byw ers rhyddhau ‘O Mi Awn Ni Am Dro’.
Y newyddion da pellach ydy fod y band yn gweithio tuag at eu hail albwm ac yn gobeithio bydd pob dim yn barod erbyn cychwyn 2023.