Mae’r cynhyrchydd electronig o Langrannog, FRMAND, unwaith eto wedi mynd ati i gyd-weithio gyda’r cynhyrchydd arall, Jardinio, i ryddhau sengl newydd ar y cyd.
‘Gwahaniaeth’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y ddeuawd sydd allan ar label FRMAND ei hun, Recordiau Bica, ers dydd Gwener diwethaf, 15 Gorffennaf.
Dyma’r drydedd sengl i’r ddau recordio a rhyddhau ar y cyd gan ddilyn ‘Dau Gi’ a ryddhawyd ym mis Awst 2021 a ‘Popty Ping’ a ryddhawyd fis Mehefin eleni.
Disgrifir y sengl newydd fel un ‘break beat’ sy’n trafod un o niferoedd o heriau sy’n bodoli mewn perthnasau.
Mae FRMAND wedi rhyddhau cyfres o senglau ar y cyd ag artistiaid eraill ers ymddangos gyntaf yn 2018, gan gynnwys Mabli, Sorela a Lowri Evans.
Ar gyfer ei sengl ddiweddaraf mae’n partneru eto gyda Jardinio, sef enw llwyfan Dan Jardine sy’n gyflwynydd, newyddiadurwr a chynhyrchydd.
Bwriad FRMAND ydy hyrwyddo cerddoriaeth ddawns iaith Gymraeg trwy ryddhau traciau ac ailgymysgiadau ar draws sawl genre yn yr iaith.