FRMAND yn cyd-weithio gyda Mali Hâf

Mae’r cynhyrchydd electronig, FRMAND, wedi cyd-weithio gyda’r artist RnB, Mali Hâf ar sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 27 Mai. 

Enw’r trac newydd gan y ddeuawd ydy ‘Heuldy’ ac mae allan ar y label sy’n cael ei reoli gan FRMAND ei hun, sef Recordiau Bica. 

Mae ‘Heuldy’ â naws y 90au i’r trac Disco-House, sy’n adrodd stori rhamant yn y tŷ haf. 

Cynhyrchydd ac artist cerddoriaeth electronig a house o Langrannog ydy FRMAND ac yn y gorffennol mae wedi cyd-weithio gydag artistiaid sy’n cynnwys Mabli, Sorela a Lowri Evans. 

Dyma’i gynnyrch cyntaf ers cyd-weithio gyda’r cynhyrchydd Jardinio i ryddhau’r trac ‘Dau Gi’ nôl ym mis Awst 2021.

Bwriad FRMAND ydy hyrwyddo cerddoriaeth ddawns iaith Gymraeg trwy ryddhau traciau ac ailgymysgiadau ar draws sawl genre yn yr iaith.

Cyntaf mewn cyfres

Partner cerddorol diweddaraf FRMAND ydy Mali Hâf, sef artist sydd wedi dod yn fwyfwy i amlygrwydd dros y misoedd diwethaf. 

Wedi cyfnod yn Leeds yn astudio cerddoriaeth mae Mali bellach yn ôl yng Nghymru ac yn brysur yn hyrwyddo ei gyrfa fel perfformiwr.

Roedd 2021 yn flwyddyn gynhyrchiol iawn wrth iddi ryddhau nifer o sengl a chyd-weithio typyn gyda’r cynhyrchydd Shamoniks. Bu iddi hefyd ryddhau’r sengl ‘Be Sydd Nesaf’, ar label Recordiau Sain ym mis Mehefin 2021 ac ei chynnyrch diweddaraf ydy’r trac ‘Paid Newid Dy Liw’, sef ei hymgais yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ym mis Mawrth eleni.

‘Heuldy’ yw’r cyntaf mewn cyfres gydweithredol rhwng FRMAND a Mali Hâf felly gallwn ddisgwyl clywed mwy gan y ddeuawd yn fuan.