Mae Trefnwyr Gŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi yn galw am geisiadau gan artistiaid sy’n awyddus i berfformio yn y digwyddiad eleni.
Mae Lleisiau Eraill yn ŵyl sy’n dathlu’r cysylltiad cerddorol rhwng Cymru ac Iwerddon.
Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol yn Dingle yn Iwerddon, ond mae digwyddiadau wedi bod yn cael eu cynnal yn Aberteifi hefyd ers sawl blwyddyn.
Cynhelir yr ŵyl yn Aberteifi eleni ar 3-5 Tachwedd ac mae’r trefnwyr yn awyddus i glywed gan artistiaid sydd â diddordeb mewn perfformio.
Mae gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb i gwblhau ffurflen ar-lein erbyn 23 Medi.