Mae Hippies vs Ghosts wedi rhyddhau eu sengl newydd ers 4 Ebrill.
Giamocs ydy enw’r record 11 trac sydd allan yn ddigidol ar safle Bandcamp.
Hippies vs Ghosts ydy prosiect unigol Owain Ginsberg, sydd gyfarwydd fel aelod o’r grwpiau Gogz, The Heights ac We Are Animal.
Crëodd dipyn o argraff gyda’r albwm ‘Droogs’ yn 2015, ac fe gafodd ei gynnwys ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig y flwyddyn honno.
Ers hynny mae Hippies vs Ghosts wedi bwrw mlaen i ryddhau tipyn o gynnyrch pellach gyda’i albwm diwethaf, ‘Intervention’, yn ymddangos ym mis Ebrill 2020.
Mae’r albwm newydd ar gael yn ddigidol ar safle Bandcamp Hippies Vs Ghosts am ddim ond £5 – bargen!
Recordiwyd yr albwm dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf yn stiwdio Owain yn Ffrainc.
“Craidd y record ydi bod na lot o technolegau gwahanol yn cael eu defnyddio o gwmpas ni heddiw mewn llawer o ddiwylliant gwahanol a di’r gêm diwadd’ ddim yn peintio llun hardd iawn” meddai Owain wrth Y Selar.
“Ma na llawer o conflict i’w glywed ar yr albwm hefo cymysgiad o synnau electronig yn erbyn yr elfennau organic.”
Dyma drac agoriadol yr albwm, ‘technolegwyr’: