Mae Gigs Cantre’r Gwaelod yn Aberystwyth, mewn cydweithrediad a’r Selar, wedi cyhoeddi manylion gig arbennig yng nghwmni Tecwyn Ifan a gynhelir fis Rhagfyr eleni.
Nôl ym mis Chwefror fe gyhoeddwyd mai Tecwyn Ifan oedd enillydd gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar eleni.
Ar y pryd roedd cyfyngiadau Covid llym yn eu lle felly doedd dim modd cynnal gig i nodi’r wobr fel sydd wedi digwydd yng Ngwobrau’r Selar mewn blynyddoedd blaenorol.
Wrth i 2022 ddirwyn i ben, mae’n gyfle i wneud yn iawn am hynny a bydd Tecwyn Ifan yn ymddangos yn y digwyddiad yn nhafarn y Cwps, Aberystwyth ar nos Iau 15 Rhagfyr.
Bydd cefnogaeth ar y noson gan y gantores werin ifanc, Mari Mathias ac mae modd archebu tocynnau nawr am £12.