Gig ‘go iawn’ cyntaf Gigs Tŷ Nain

Mae trefnwyr Gigs Tŷ Nain wedi cyhoeddi manylion eu gig diweddaraf fydd yn digwydd yng Nghanolfan Pontio ar 19 Chwefror

Dyma fydd y trydydd gig i’r criw drefnu, ond yr un cyntaf fydd yn gwahodd cynulleidfa fyw gyda’r ddau flaenorol yn ddarllediadau ar-lein. 

Candelas, Kim Hon a Dafydd Hedd sy’n perfformio, a Stiwdio Theatr Pontio fydd yr union leoliad. 

Creu cyfle i gigio

Criw newydd o drefnwyr sy’n gyfrifol am Gigs Tŷ Nain, ond criw sy’n cynnwys wynebau cyfarwydd  i unrhyw un sy’n dilyn y sîn gerddoriaeth Gymraeg, gan eu bod i gyd naill ai’n aelodau o fandiau, wedi bod mewn bandiau, neu’n artistiaid unigol. 

Dechreuodd y fenter yng nghanol y pandemig ym mis Hydref 2020, pan awgrymwyd dros alwad Zoom gymdeithasol y dylid, yn hytrach na disgwyl am gyfle, greu cyfle i gael gigio unwaith eto. A gyda hynny, ganwyd Gigs Tŷ Nain.

Hiraeth am gigs, felly, oedd yr ysgogiad i drefnu gig rhithiol, ac ar ddydd Calan 2021, darlledwyd gig cyntaf Gigs Tŷ Nain yn rhithiol o neuadd gymunedol Mynytho, gyda lein-yp a lwyddodd i ddenu torf o 1,300 i wylio. Yr artistiaid bryd hynny oedd Alffa, Malan, Gwilym ac Elis Derby.

Pontio eto

Yn dilyn llwyddiant y gig cyntaf, darlledwyd Gigs Tŷ Nain 2 ym mis Mehefin 2021 – unwaith eto, gig rhithiol, gyda Yr Eira, Y Cledrau a Magi yn perfformio o theatr Pontio, Bangor.

Pontio fydd y lleoliad unwaith eto fis Chwefror, ond y tro yma, nid o’r theatr, ond y stiwdio fach yn y ganolfan.  Aeth y tocynnau ar werth am £10 ar 19 Ionawr a nifer cyfyngedig ohonynt sydd ar gael.

Mae’r gig wedi ei gefnogi gan The Youth Music Incubator Fund, diolch i gyllid gan chwaraewyr Loteri y Côd Post.

Mae hwn yn ddigwyddiad capasiti llawn, a bydd angen Pás Covid-19 i fynychu.