Gig lansio ‘Oes Pys?’

Bydd y grŵp o’r gogledd, Twmffat, yn cynnal gig lansio swyddogol ar gyfer eu halbwm ‘Oes Pys?’ ddiwedd mis Mawrth.

Rhyddhawyd yr albwm, sef trydydd record hir Twmffat, ym mis Chwefror llynedd, ynghyd â ffilm ddogfen arbennig.

Er hynny, doedd dim modd cynnal gig lansio ar y pryd oherwydd cyfyngiadau, felly mae’r grŵp yn mynd ati i wneud hynny nawr.

Mae rheswm da arall dros gynnal gig lansio rŵan hefyd sef bod yr albwm yn cael ei ryddhau ar ffurf CD a chasét.

Cynhelir y gig lansio yn nhafarn Y Ring, Llanfrothen ar nos Sadwrn 26 Mawrth (7pm) gyda chefnogaeth ar y noson gan Tri Hŵr Doeth, ynghyd â Hap a Damwain.

Does dim tâl mynediad ffurfiol, ond yn hytrach na hynny mae’r grŵp yn gofyn am gyfraniad o ddewis unrhyw un sy’n dod. 

Dyma ffilm ddogfen ‘Oes Pys?’: