Gig Y Pump yng Nghaffi Maes B

Bydd gig arbennig i gyd-fynd â chyfres o nofelau i bobl ifanc yn cael ei gynnal yng Nghaffi Maes B ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod. 

Mae Y Pump yn gyfres bwerus o nofelau gan awduron ifanc sy’n dilyn hynt pum ffrind ym Mlwyddyn 11 Ysgol Gyfun Llwyd – Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat. 

Cafodd y gyfres dipyn o lwyddiant yng ngwobr Llyfr y Flwyddyn eleni gan gipio’r wobr yn y categori Plant a Phobl Ifanc, ac yna dod i’r brig ym mhleidlais Barn y Bobl golwg360 a chipio’r wobr honno hefyd. 

Gan adeiladu ar lwyddiant y gyfres, bydd Y Pump, ar y cyd gyda Maes B, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Cwmni Theatr Frân Wen ac AM yn cynnal gig yng nghwmni cymeriadau’r Pump, Eädyth a Lewys. 

Bydd actorion yn dod â straeon cymeriadau Y Pump yn fyw mewn gig arbennig yng Nghaffi Maes B. Yna bydd cyfle i ddarllen y gwaith gorffenedig mewn zine digidol gan y dylunydd Steffan Dafydd yn ystod ac ar ôl y gig! 

Bydd enwau’r actorion sy’n chwarae rhannau prif gymeriadau Y Pump yn cael eu datgelu ar 25 Gorffennaf. 

Yn ystod yr wythnos, bydd awduron a chyd-awduron y gyfres yn cwrdd i weithio ar eu penodau a darllen gwaith bob dydd am 18:30 ar Lwyfan y Llanerch.