Gigs fel rhan o ŵyl ffrinj Tafwyl

Mae trefnwyr Gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi manylion eu gŵyl ffrinj eleni fydd yn dechrau ar 12 Mehefin.

Bydd gweithgareddau amrywiol drwy gydol yr wythnos gan gynnwys cwpl o gigs yng Nghlwb Ifor Bach.

Ar nos Fercher 15 Mehefin bydd Twrw x Tafwyl yn cyflwyno Breichiau Hir, ac yna ar nos Wener 17 Mehefin byddan nhw hefyd yn llwyfannu perfformiad prin gan Yr Ods. 

Mae manylion llawn y digwyddiadau i gyd ar wefan Tafwyl.