Glain Rhys yn rhyddhau trac Nadoligaidd

Mae Glain Rhys wedi rhyddhau eu sengl newydd, a’i phedwaredd sengl ers ymuno â label Recordiau I KA CHING, ers dydd Gwener diwethaf, 2 Rhagfyr.

‘Eira Flwyddyn Nesaf’ ydy enw’r trac newydd gan yr artist o ardal Y Bala a’r tro hwn mae wedi cyd-weithio gyda’r canwr-gyfansoddwr o Lansannan, Gildas (Arwel Lloyd).

Mae’r sengl newydd yn flas pellach o sain newydd Glain Rhys gan ddilyn y traciau a ryddhawyd ganddi llynedd sef ‘Plu’r Gweunydd’ a ‘Swedish Tradition’.  

Cyn rhyddhau rhagor o senglau oddi ar ei halbwm hir-ddisgwyliedig, mae Glain yn ei hôl gyda deuawd Nadoligaidd rhyngddi a Gildas. Mae ‘Eira Flwyddyn Nesa’ wedi ei hysgrifennu o safbwynt rhywun sy’n gorfod mynd i ffwrdd a gadael ei chariad ar ôl.

“Mae hi’n gofyn i’w chariad feddwl amdani pan fydd hi wedi bwrw eira” eglura Glain.

“Er ei bod yn gwybod o’r dechrau y bydd y berthynas fer yn gorfod dod i ben, bron fel yr eira sy’n gorfod dadmer.”

Mae Glain wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r cynhyrchydd Osian Huw Williams ar offeryniaeth a chynhyrchiad ei chaneuon ac Osian sy’n chwarae’r holl offerynnau ychwanegol.

Mae ei dylanwadau cerddorol newydd yn cynnwys Billie Eillish, Greta Isaac, Orla Gartland a Phoebe Bridgers.