Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau’r pandemig yng Nghymru ar hyn o bryd, mae trefnwyr Gŵyl Neithiwr wedi penderfynu i ohirio’r digwyddiad eleni.
Roedd yr ŵyl gerddoriaeth, a gynhaliwyd gyntaf yn Ionawr 2020, i fod i’w chynnal yng Nghanolfan Pontio, Bangor ar 22 Ionawr.
Er bod rhaid gohirio, mae’r trefnwyr wedi cyhoedd dyddiad newydd ar gyfer y digwyddiad sef 18 Mehefin.
Ymysg yr artistiaid oedd i fod i berfformio yn yr ŵyl roedd Adwaith, Kim Hon, Pys Melyn, 3 Hwr Doeth a mwy.