Mae Griff Lynch wedi rhyddhau sengl newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 29 Ebrill.
‘Yr Enfys’ ydy enw sengl unigol ddiweddaraf ffryntman Yr Ods, a dyma hefyd ydy’r trac diweddaraf i ymddangos yn y gyfres i nodi pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
Go brin fod angen llawer o gyflwyniad ar Griff Lynch sydd wedi gwneud enw i’w hun gydag Yr Ods, sydd wedi bod yn un o brif grwpiau Cymru dros y 15 mlynedd diwethaf.
Ers rhai blynyddoedd bellach mae Griff wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth pop-electronig fel artist unigol hefyd, gyda’i sengl gyntaf, ‘Hir Oes Dy Wen’, yn cael ei rhyddhau ar label I KA CHING yn 2016. Mae sawl sengl wedi dilyn ganddo ers hynny gan gynnwys ‘Os Ti’n Teimlo’ yn Ebrill 2020 a greodd dipyn o gynnwrf fel y sengl ‘NFT’ (non-fungible token) gyntaf yn yr iaith Gymraeg.
“Mae ‘Yr Enfys’ yn gân sy’n dweud stori merch o’r enw Eleri, sy’n ceisio cyrraedd man gwyn man draw, ac yn chwilio am drysor o dan yr enfys”, eglura Griff.
“Roeddwn i’n awyddus i greu cân mewn byd dychmygol, a dweud stori ysgafn. O fewn y stori, mae ’na fymryn o wers, ond does dim rhaid edrych allan amdano, dim ond mwynhau’r ‘hooks‘!”
Bydd ‘Yr Enfys’ ynghyd â gweddill y traciau wythnosol sydd wedi bod yn cael eu rhyddhau gan I KA CHING, yn cael eu rhyddhau fel cyfanwaith aml-gyfrannog ar record feinyl dwbl ar 20 Mai dan yr enw ‘I KA CHING – 10’.