Gruff Rhys ar EP Imarhan

Mae record fer dau drac newydd gan y grŵp Twareg, Imarhan, wedi’i ryddhau gyda Gruff Rhys yn ymddangos ar un o’r traciau.

The Distance ydy enw’r EP newydd ac mae Gruff Rhys yn ymddangos ar y trac o’r un enw.  Y trac arall o’r pâr ydy ‘Tadalat’.

Grŵp 5 aelod ydy Imarhan sy’n canu’n bennaf yn yr iaith Twareg sy’n cael ei siarad gan lwythi Nomadig mewn rhannau o Ogledd Affrica.

Mae Gruff Rhys wedi cyd-weithio â’r grŵp o’r blaen ar y trac ‘Adar Newlan’ oedd wedi’i gynnwys ar yr albwm ‘Aboogi’ ar ryddhawyd ym mis Ionawr eleni.

Roedd cyfle i weld Gruff yn perfformio’n fyw gydag Imarhan yn y Moth Club, Llundain nos Iau diwethaf, 18 Awst.