Gruff Rhys yn cyhoeddi manylion albwm  newydd

Mae Gruff Rhys wedi cyhoeddi manylion albwm newydd sy’n drac sain ar gyfer y ffilm ‘The Almond and the Seahorse’. 

Wrth wneud hynny mae hefyd wedi rhyddhau prif drac y casgliad, ‘Amen’, fel sengl ddydd Gwener diwethaf, 16 Rhagfyr. 

Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau’n swyddogol ar 24 Chwefror ar label Rough Trade Records, ond mae modd rhag-archebu’r record nawr. 

Roedd dyddiad y cyhoeddiad, a rhyddhau’r sengl newydd, yn arwyddocaol gan ei fod yn cyd-fynd â dangosiadau cyntaf y ffilm newydd mewn sinemâu yn yr UDA. Does dim cadarnhad o ddyddiad agor y ffilm yn y DU eto. 

Mae Gruff wedi bod yn brysur yn recordio’r trac sain yn ystod 2021 a 2022 ac mae’n cynnwys cyfraniadau gael aelodau o Gerddorfa Genedlaethol Cymru. 

Mae’r albwm newydd yn ddilyniant i albwm unigol diweddaraf Gruff, ‘Seeking New Gods’, a ryddhawyd yn ystod 2021. 

Ffilm gan y cyfarwyddwr o Gymru, Celyn Jones, a ddaw’n wreiddiol o Ynys Môn, ydy ‘The Almond and the Seahorse’. Mae’r ffilm yn serennu’r actorion Charlotte Gainsbourg, Trine Dyrholm a Rebel Wilson.

Wedi’i osod yn Lerpwl, dywed Gruff ei fod wedi ceisio cynrychioli hanes cerddorol yr ardal ar drac sain y ffilm. 

I gyd-fynd â’r sengl, mae ffryntman y Super Furry Animals hefyd wedi cyhoeddi fideo ar gyfer y trac, wedi’i gyfarwyddo gan Ryan Owen Eddleston.