Bydd prosiect Merched yn Gwneud Miwsig yn cynnal eu gweithdy preswyl diweddaraf ym mis Tachwedd eleni.
Mae’r prosiect yn dychwelyd i Glan Llyn Isaf ger Y Bala ar gyfer y gweithdy diweddaraf ar ôl cynnal gweithdy preswyl llwyddiannus yn yr un lleoliad ym mis Chwefror eleni.
Dyddiad y gweithdy ydy penwythnos 4 – 6 Tachwedd ac mae modd archebu lle am bris gostyngol o £49.
Prosiect Maes B i hybu mwy o ferched i ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg ydy ‘Merched yn Gwneud Miwsig’.
Yn y gorffennol mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai diwrnod mewn lleoliadau yng Nghaerdydd ac Aberystwyth, yn ogystal â lansio ffansîn a phodlediad poblogaidd. Dyma fydd y trydydd tro iddynt gynnal penwythnos preswyl yng Nglan Llyn gyda’r cyntaf nôl ym mis Hydref 2021.
Bydd tiwtoriaid y penwythnos yn cynnwys Heledd Watkins o’r band HMS Morris, ynghyd â’r gantores indie-pop llwyddiannus, Hana Lili.
Yn ôl y trefnwyr mae croeso mawr i unigolion newydd, ac i bobl sydd wedi bod i’r gweithdai blaenorol hefyd.