Mae prosiect Merched yn Gwneud Miwsig wedi cyhoeddi manylion gweithdy preswyl ar benwythnos 25-27 Chwefror 2022.
Mae’r cynllun sy’n cael ei redeg gan Maes B unwaith eto’n cyd-weithio gyda’r Urdd er mwyn cynnal y gweithdy yng Nglan Llyn Isaf ger Y Bala.
Cynhaliwyd gweithdy tebyg yn yr un lleoliad ar benwythnos olaf mis Hydref 2021, ac roedd hwnnw’n llwyddiannus iawn yn ôl y trefnwyr.
Prosiect Maes B i hybu mwy o ferched i ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg ydy ‘Merched yn Gwneud Miwsig’.
Yn y gorffennol mae’r prosiect wedi cynnal gweithdai diwrnod mewn lleoliadau yng Nghaerdydd ac Aberystwyth, yn ogystal â lansio ffansîn a phodlediad poblogaidd.
Y tiwtoriaid ar y prosiect y tro yma ydy Marged Gwenllian o’r grŵp Y Cledrau, y gantores pop Hana Lili, a Heledd Watkins o’r grwpiau HMS Morris a BOI.
£25 ydy pris y gweithdy i aelodau’r Urdd, neu £35 i rai sydd ddim yn aelodau. Mae modd archebu lle nawr ar-lein trwy’r Urdd.