Ar ôl creu tipyn o argraff yn ystod misoedd cyntaf 2021, mae’r pianydd talentog, Gwenno Morgan, yn ôl gyda sengl newydd wythnos yma.
Daeth Gwenno i’r amlwg ddechrau’r flwyddyn llynedd yn wreiddiol diolch i’w thraciau ar y cyd â Mared, sef ‘Llif yr Awr’, a Sywel Nyw (‘Dyfroedd Melys’), cyn rhyddhau’r EP ardderchog, ‘Cyfnos’, ym mis Ebrill.
‘Trai’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan heddiw gan y ferch o Fangor, a dyma’r trac diweddaraf i gael ei ryddhau fel rhan o ddathliadau pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed.
Mae’r label yn rhyddhau albwm aml-gyfrannog ar 20 Mai eleni i nodi’r achlysur, ac wrth arwain at hynny byddan nhw’n rhyddhau trac o’r casgliad bob wythnos fel sengl.
Rhyddhawyd y gyntaf o’r rhain wythnos diwethaf, sef fersiwn Candelas o’r clasur gan Brân, ‘Y Gwylwyr’ gyda Nest Llewelyn, oedd yn canu ar y fersiwn wreiddiol, yn ymuno i ganu ar y fersiwn newydd hefyd.
Mae Gwenno Morgan yn bianydd tu hwnt, yn gyfansoddwr ac yn gynhyrchydd ac fe ddenodd ei EP cyntaf sinematig, hypnotig gryn dipyn o sylw a chanmoliaeth.
Yn wahanol i’r traciau ar yr EP mae ‘Trai’ yn gwyro tuag at arddull pop, dawns a jazz. Mae’r gân yn adleisio dylanwadau rhythmig Max Cooper a harmonïau Butcher Brown. Daw’r teitl o natur ailadroddus yr alaw ar y piano a’r synth.
Cafodd y trac ei recordio a’i gynhyrchu gan Gwenno ac Ifan Emlyn Jones yn stiwdio Sain, gyda Carwyn Williams yn chwarae’r drymiau.
Dyma ‘Trai’: