Wrth i ni nodi Heuldro’r Haf, neu Alban Hefin yr wythnos hon, bydd Gwenno’n perfformio mewn gig arbennig mewn safle unigryw sy’n cael ei gysylltu â’r diwrnod.
Mae Bryn Celli Ddu yn safle beddrod Neolithig arwyddocaol ger Llanddaniel Fab ar Ynys Môn sydd dan ofal Cadw.
Er yn safle arbennig iawn, dim ond unwaith y flwyddyn y gellir gweld nodwedd mwyaf anarferol Bryn Celli Ddu.
Wrth i’r haul godi ar heuldro’r haf (diwrnod hiraf y flwyddyn) mae golau’n tywynnu’n syth i lawr tramwyfa’r beddrod i oleuo’r siambr y tu mewn.
Dydd Sadwrn 18 Mehefin ydy diwrnod hira’r flwyddyn eleni a bydd digwyddiad celf awyr agored ym Mryn Celli Ddu i nodir achlysur, gan archwilio tirwedd, defodau a dathlu archaeoleg. Wrth iddi nosi, bydd perfformiad cerddorol unigryw gan Gwenno fel rhan o’r digwyddiad.
Mae modd archebu tocynnau i’r digwyddiad am £10 ar wefan Cadw.