Gwobr Llwybr Llaethog i Hap a Damwain

Cyhoeddwyd wythnos diwethaf mai’r grŵp amgen o’r gogledd, Hap a Damwain, ydy’r diweddaraf i dderbyn ‘Gwobr Gerddorol Llwybr Llaethog’.

Ers rhyw saith blynedd, fel arfer o gwmpas dyddiad Dydd Gŵyl Dewi, mae John a Kevs, aelodau’r grŵp dub / electroneg / rap, Llwybr Llaethog, wedi bod yn dyfarnu eu ‘Gwobr Gerddorol’ i rywun am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymreig.

Mae’r enillydd yn derbyn gwobr wedi ei chreu gan John a Kevs eu hunain, ac ar 1 Mawrth fe gyhoeddwyd ar gyfrif Twitter Llwybr Llaethog mai’r ddeuawd cerddorol profiadol, Hap a Damwain, oedd yr enillwyr eleni.

Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Adwaith (2020), Serol Serol(2019), Mr Phormula (2018), Meic Sbroggs (2017), Dau Cefn (2016), Y Pencadlys (2015) a Rhys Jakokoyak (2014).

Hap a Damwain ydy dau o gyn aelodau’r grŵp o’r 80au/90au cynnar, Boff Frank Bough, sef Simon Beech (cerddoriaeth, cynhyrchu, offerynnau a thechnoleg) ac Aled Roberts (geiriau, llais a chelf).

Daeth y ddau ynghyd eto i ffurfio Hap a Damwain yn fuan ar ôl atgyfodi Boff Frank Bough am berfformiad arbennig yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019. 

Ers hynny maent wedi bod yn weithgar o ran rhyddhau cynnyrch newydd gan gynnwys nifer o senglau, y ddau EP ‘Ynysig #1’ ac ‘Ynysig #2’ yn 2020, ac yr albwm ‘Hanner Cant’ a ryddhawyd ym mis Mai 2021