Gwobrau’r Selar yn dathlu llwyddiant cerddoriaeth Gymraeg

Dros y ddeuddydd diwethaf mae’r Selar, ar y cyd â BBC Radio Cymru, wedi bod yn dathlu cerddoriaeth Gymraeg 2021 gan ddatgelu enillwyr Gwobrau’r Selar eleni.

Y grŵp Papur Wal oedd yr enillwyr amlycaf eleni wrth iddynt gipio tair o’r gwobrau. Eu sengl ‘Llyn Llawenydd’ enillodd wobr y ‘Gân Orau’ oedd yn cael ei noddi gan PRS for Music, gydag eu halbwm cyntaf, Amser Mynd Adra, yn dod i frig y bleidlais am y Record Hir Orau.

Y triawd o’r gogledd, sydd bellach wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd, oedd enillwyr teitl Band Gorau 2021 hefyd ac roedd sesiwn arbennig gyda hwy fel rhan o raglen Huw Stephens ar Radio Cymru nos Iau.

Roedd 10 o’r gwobrau’n cael eu cyhoeddi ar raglenni arbennig gan Lisa Gwilym a Huw Stephens ar BBC Radio Cymru nos Fercher a nos Iau. Ond cyn hynny, roedd un wobr eisoes wedi cael ei chyflwyno ar raglen Aled Hughes fore Mercher, sef y wobr Cyfraniad Arbennig oedd yn cael ei noddi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Ar ddiwedd sgwrs gyda’r cerddor bytholwyrdd Tecwyn Ifan, datgelodd Aled mai ef oedd i dderbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar eleni, a theg dweud bod y newyddion wedi dod fel syndod i Tecwyn, oedd yn amlwg dan deimlad.

M ac M’s

Gellid dweud bod y llythyren ‘M’ yn un amlwg iawn ymysg enillwyr Gwobrau’r Selar eleni!

Y gantores o Lanefydd, Mared, a enillodd ddwy wobr llynedd, oedd yn fuddugol yng nghategori’r ‘Artist Unigol Gorau’ eleni.

Roedd cydnabyddiaeth i’r gwaith gwych mae prosiect Merched yn Gwneud Miwsig yn gwneud er mwyn hybu merched i fod yn weithgar yn y diwydiant cerddoriaeth wrth iddynt dderbyn ‘Gwobr 2021’.

Nod y wobr yma, sy’n cael ei noddi gan raglen Heno ar S4C, ydy dathlu cyfraniad rhywun sy’n ymateb i heriau’r sin gerddoriaeth mewn modd positif, ac mae Merched yn Gwneud Miwsig yn sicr yn gwneud hynny. Cyflwynwyd y wobr i Elan Evans, sy’n arwain y prosiect, ar raglen Heno nos Fercher.

Roedd dwy wobr arall i enwau’n dechrau gyda ‘M’ hefyd! Marged Gwenllian, sy’n chwarae bas i’r Cledrau a Ciwb, ac sydd hefyd yn weithgar mewn sawl ffordd arall, ddaeth i frig pleidlais categori ‘Seren y Sin’ eleni.

Llwyddodd y cerddor o Ddyffryn Clwyd, Morgan Elwy, i goronni blwyddyn gofiadwy iawn hefyd wrth gipio teitl y Band neu Artist Newydd Gorau. Roedd cyfle i glywed sesiwn arbennig gyda Morgan ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher.

Gwobrau celf gweledol

Tair gwobr yn weddill, a dwy ohonynt yn rai sy’n gwerthfawrogi elfennau celf gweledol y diwydiant.

Mae cyfrwng y fideo cerddoriaeth wedi dod yn fwyfwy amlwg fel modd o hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd digon o ddewis yn y categori ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau 2021’, oedd yn cael ei noddi gan S4C. Sŵnami ddaeth i frig y bleidlais eleni gyda’r fideo cofiadwy ar gyfer ‘Theatr’ a ffilmiwyd ym mhentref Eidalaidd Portmeirion, ac oedd yn serennu’r actor Tom Rhys Harries.

Roedd categori’r ‘Gwaith Celf Gorau’ yn cael ei noddi gan wasg Y Lolfa, ac yr enillwyr oedd Y Cledrau gyda’r gwaith celf trawiadol ar gyfer eu halbwm, Cashews Blasus, gan y dylunydd James Reid.

Gellir dadlau bod 2021 wedi bod yn adfywiad bach i’r EP Cymraeg hefyd, gyda mwy o recordiau byr yn ymddangos nag a fu ers sawl blwyddyn. Dydd Miwsig Cymru oedd yn noddi categori’r ‘Record Fer Orau’, a Los Blancos ddaeth i frig y rhestr fer gref gyda’u EP Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig.

Unwaith eto roedd Y Selar yn falch iawn o gyd-weithio gydag adran Celf a Dylunio Prifysgol y Drindod Dewi Sant er mwyn rhoi cyfle i un o’r myfyrwyr greu’r gwaith celf ar gyfer tlysau’r Gwobrau eleni. Ffion Richardson o Dyddewi yn Sir Benfro oedd yn gyfrifol am y gwaith eleni.

Roedd cyfle am ddathliad pellach mewn ‘ôlbarti’ ar Facebook Y Selar neithiwr gyda nifer o eitemau fideo arbennig ar gyfer yr achlysur. Gallwch wylio hwn isod hefyd ar alw.

Llongyfarchiadau mawr i’r holl enillwyr.

Rhestr lawn o Enillwyr

Cân Orau 2021 (Noddir gan PRS for Music): Llyn Llawenydd – Papur Wal

Band neu Artist Newydd 2021: Morgan Elwy

Seren y Sin 2021: Marged Gwenllian

Record Hir Orau 2021: Amser Mynd Adra – Papur Wal

Gwobr 2021 (Noddir gan Heno): Merched yn Gwneud Miwsig

Gwaith Celf Gorau 2021 (Noddir gan Y Lolfa): Cashews Blasus – Y Cledrau

Artist Unigol Gorau 2021: Mared

Fideo Cerddoriaeth Gorau 2021 (noddir gan S4C): Theatr – Sŵnami

Record Fer Orau 2021 (noddir gan Dydd Miwsig Cymru): Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig – Los Blancos

Band Gorau 2021: Papur Wal

Gwobr Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant): Tecwyn Ifan