Gŵyl Fel ‘na Mai – cyhoeddi manylion gŵyl newydd

Mae trefnwyr gŵyl gerddoriaeth newydd sbon yng Nghrymych, Sir Benfro, wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad.

Bydd Gŵyl Fel ‘na Mai yn cael ei chynnal ar safle Maes Ploveilh yng Nghrymych, sydd yng nghesail mynydd y Frenni Fawr, gyda golygfeydd godidog o fryngaer Moel Drigarn yn mynyddoedd y Preselau.  

Cynhelir yr ŵyl newydd ar 7 Mai ac mae addewid o ddau lwyfan, ynghyd â chyfleusterau bwyd, bar diodydd a gweithgareddau plant amrywiol. 

Mae’r leinyp hefyd yn drawiadol ac yn cynnwys rhai o enwau mwyaf cerddoriaeth gyfoes Gymraeg fel Mei Gwynedd a Los Blancos, ochr yn ochr â thalentau lleol sy’n cynnwys corau, cantorion unigol a stand yps. 

Dyma’r perfformwyr sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma ar gyfer y digwyddiad: 

Mei Gwynedd

Dafydd Iwan

Los Blancos

Bwncath

Einir

Dafydd

Dafydd

Pantrod a’r band

DJ Daf

Dafydd Pantrod a’r band

Côr Bois Clwb Rygbi Crymych

Erin Byrne

Manon Elster Jones

Côr Dysgu Cymraeg Sir Benfro

Ysgol Bro Preseli

 

Yn ôl y trefnwyr bydd mwy o berfformwyr yn cael eu cyhoeddi rhwng hyn a dyddiad yr ŵyl. 

Mae tocynnau’r ŵyl eisoes ar werth am bris cyntaf i’r felin gostyngol ar wefan yr ŵyl – £18 i oedolion a £12 i blant (pris llawn – £20/£15).